Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant ar gyfer Cymru
|
|
Dechreuwyd datblygu'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant ar gyfer Cymru ym mis Medi 2002 a'i ddiben yw gwella ansawdd a thegwch y gwasanaeth a ddarperir trwy bennu safonau cenedlaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer yr holl blant a phobl ifanc. Mae perthynas weithio agos yn cael ei ffurfio gyda'n cydweithwyr ym myd addysg a'r sector gwirfoddol, am fod cydweithio aml-asiantaeth yn thema allweddol yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol hwn. Mae pwyslais yn cael ei roi ar asesiad holistaidd o blant yng nghyd-destun eu teuluoedd a'r gymuned ehangach er mwyn targedu gwasanaethau sy'n seiliedig ar eu hangen a'u galluogi i wneud penderfyniadau am y gofal y maent yn ei dderbyn. Nod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant yw bod:
|
|
"All children and young people achieve optimum health and well being and are supported in fulfilling their potential."
|
|
Bydd y fframwaith yn debyg i'r model a ddatblygwyd gan yr Adran Iechyd yn Lloegr o ran sefydlu chwe modiwl i fynd â'r gwaith yn ei flaen:
|
|
|
|
|
|
|
Mae Gweithgorau Allanol wedi cael eu sefydlu ar gyfer pob modiwl ac mae pump o'r grwpiau hyn wedi dechrau ar y gwaith o bennu safonau. Erbyn dechrau mis Mawrth 2003 bydd y chwe gweithgor allanol yn gweithio ar y cyd. Bydd carfanau perthnasol, gan gynnwys rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc i gyd yn cymryd rhan mewn proses ymgynghori anffurfiol gydol yr amser y bydd y safonau'n cael eu datblygu. Bydd ymgynghoriad ffurfiol ar yr holl safonau a ddatblygir yn cael ei gynnal yn ystod haf 2003.
|
|
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ar 029 2082 6563 neu e-bostiwch:
|
|
Pen
|